Adolygu a newid y dystiolaeth y mae ei hangen mewn adolygiad o berfformiad pennaeth

Trafodaeth – Ysgol Uwchradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Diwygiodd y corff llywodraethu y dystiolaeth sy’n ofynnol mewn adolygiad o berfformiad pennaeth, a gosododd dargedau newydd. Roedd hyn yn anodd ei wneud mewn un cyfarfod gan fod cymaint o waith papur. Mae’r ffaith bod y canllawiau’n cael eu diwygio bob blwyddyn yn broblemus hefyd gan nad oes cyfle i gymharu un flwyddyn â’r nesaf.


Beth ddigwyddodd?
Ceisiwyd cymorth gan y Consortiwm. Fe’i rhoddwyd, ond roedd yn anodd trefnu cyfarfod y gallai’r holl bartïon ei fynychu ac a allai ganiatáu digon o amser i ddarllen a thrafod.


Pa wersi a ddysgwyd?
Gosodwyd targedau ar gyfer pennaeth newydd, ond nid oedd unrhyw un yn fodlon ar ba mor hir y cymerodd i drefnu a datrys y mater. Nid yw’n ddigonol ystyried hyn unwaith y flwyddyn ychwaith. Roeddem yn teimlo y dylai adolygiad gael ei gynnal hanner ffordd drwy’r flwyddyn i wirio cynnydd neu ddiffyg cynnydd, a’r rhesymau pam.


Sylwebaeth
Bydd gan bob ysgol bolisi rheoli perfformiad sy’n amlinellu’r paramedrau ar gyfer proses rheoli perfformiad staff addysgu a’r pennaeth.

Mae rheoli perfformiad yn rhoi cyfle i staff addysgu’r ysgol fyfyrio ar eu hymarfer a’i asesu yn erbyn y safonau proffesiynol yn ystod y flwyddyn.

Bydd amcanion yn cael eu gosod a fydd yn cyfrannu at flaenoriaethau datblygu’r ysgol a chynllunio strategol. Dylai’r corff llywodraethu sicrhau bod rheoli perfformiad yn cael ei amseru i gyd-fynd â blwyddyn gynllunio’r ysgol lle y bo’n bosibl. Ni ddylai fod yn broses feichus. Bydd ymgorffori hyn yn amserlen waith yr ysgol yn galluogi aelodau’r panel i wybod ymhell o flaen llaw pryd y bydd y broses yn cael ei chynnal. Proses gefnogol ydyw, yn anad dim. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gynnal proses rheoli perfformiad y pennaeth ar gael yma.

Mae rheoli perfformiad yn broses barhaus sy’n cynnwys cynllunio, monitro ac adolygu. Mae’r panel yn cynnwys o leiaf 2 lywodraethwr a hyd at 2 gynrychiolydd o’r Awdurdod Lleol, a fydd yn cytuno ar yr amcanion, ynghyd â’r pennaeth. Fodd bynnag, bydd y drafodaeth gyffredinol yn cael ei llywio gan gynnydd yr ysgol, cyrhaeddiad blaenorol a’r cyfraniad y mae’r pennaeth yn ei wneud ac wedi’i wneud tuag at sicrhau gwelliant yn yr ysgol. Yn ogystal, bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y datblygiad a’r cymorth sy’n angenrheidiol, a’r cyfan yn ystyried cydbwysedd bywyd a gwaith y pennaeth.

Pan fydd targedau wedi’u gosod, dylid cytuno ar sut y bydd perfformiad y pennaeth yn cael ei fonitro drwy gydol y flwyddyn. Gall gweithdrefnau monitro gynnwys amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys cofnod adolygu a datblygu ymarfer y pennaeth; y cynllun datblygu ysgol; gwybodaeth am berfformiad yr ysgol ac ati, yn ogystal â thrafodaethau anffurfiol yn ystod y flwyddyn.

Mae’n sicr yn arfer da i waith papur a data perthnasol gael eu hanfon mewn da bryd cyn y cyfarfod. Bydd hyn yn golygu y gellir ystyried y wybodaeth yn ofalus ac yn rhoi canolbwynt clir i’r drafodaeth, a bydd yn helpu i hwyluso’r cyfarfod.

Mae Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru wedi llunio cylch gorchwyl ar gyfer gwerthuswyr.


Myfyrdodau…
Sut mae’ch corff llywodraethu’n mynd ati i adolygu a gosod targedau perfformiad ar gyfer y pennaeth?
A ydych chi’n credu ei bod yn syniad da bod cynnydd yn erbyn targedau yn cael ei adolygu, a bod targedau’n cael eu diwygio o bosibl, hanner ffordd drwy’r flwyddyn ysgol?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 support@governors.cymru
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708