Helpu eich corff llywodraethu i fod yn effeithiol

Fe fydd cyrff llywodraethu yn gallu herio’n llawer mwy effeithiol os ydyn nhw wedi sefydlu perthynas waith da gyda’r pennaeth a’r staff yn yr ysgol, maen nhw’n gwneud hyn trwy ofyn cwestiynau. Dylai cwestiynau geisio wneud mwy na chwilio am wybodaeth. Os nad ydy llywodraethwyr yn derbyn tystiolaeth o gynnydd yn yr ysgol, fe ddylen nhw fod yn barod i ofyn y cwestiynau heriol hynny i gael darlun clir o’r hyn sy’n digwydd, a holi pam nad ydy’r ysgol yn datblygu.

Mae gan gadeirydd effeithiol rôl i’w chwarae hefyd fel bod:

  • eitemau ar yr agenda yn canolbwyntio ar faterion gwelliant ysgol strategol;
  • gwybodaeth angenrheidiol yn cael ei dosbarthu o flaen llaw;
  • amser digonol i drafod eitemau pwysig;
  • pob llywodraethwr yn cael cyfle i gyfrannu a bod y prosesau gwneud penderfyniadau yn glir, eu bod yn cael eu hannog i ofyn cwestiynau am adroddiadau a data; a
  • cofnodion cywir yn cael eu cadw.

Fe fydd clerc effeithiol yn deall rôl llywodraethwyr ac yn adlewyrchu eu cwestiynau a’r herio yng nghofnodion y cyfarfod (fel y trafodwyd yn yr e-fwletin diwethaf). Fe fydd clercod yn annog llywodraethwyr i graffu ar waith papur cyn cyfarfodydd fel eu bod wedi paratoi yn well ac yn teimlo’n fwy galluog i gymryd rhan mewn trafodaethau.


  • Cyfleoedd i herio – sut y cofnodir canlyniadau
  • Corff llywodraethu / cyfarfodydd – trwy’r cofnodion
  • Gosod targedau / dadansoddi data / adolygu polisi – trwy’r cofnodion
  • Rheoli Perfformiad y Pennaeth – trwy gyfarfodydd gwerthuso a monitro targedau
  • Ymweliadau llywodraethwyr cyswllt – cofnodi trwy adroddiadau ymweliadau llywodraethwyr cyswllt a’u hadlewyrchu yng nghofnodion y corff llywodraeth
  • Ymarferion hunanwerthuso – cofnodi trwy ddefnyddio archwiliad sgiliau a hunanwerthusiad Corff Llywodraethu



    Crynodeb:

    1. Sicrhau bod cofnodion cyfarfodydd yn cofnodi unrhyw adegau pan fo llywodraethwyr yn cwestiynu ac yn herio’r pennaeth neu’r ysgol. Ymadroddion posibl i’w defnyddio yn y cofnodion i amlygu sialens:
      Gofynnodd y llywodraethwyr am fwy o eglurder ynghylch …
      Holodd un llywodraethwr os oedd yna unrhyw resymau penodol pam nad oedd canlyniadau xxx yn xxx cystal â’r hyn a ragwelwyd …
      Holodd cadeirydd y Pwyllgor Staffio pam …
      Holodd y llywodraethwyr a oedd …
      Wrth ymateb i gwestiwn gan lywodraethwr, esboniodd y Pennaeth …
      Cododd y llywodraethwr yn gyfrifol am iechyd a diogelwch bryder ynghylch …
    2. Cofiwch bod llywodraethwyr yno i gefnogi’r ysgol ac nid i herio’n unig. Dylid adlewyrchu’r gefnogaeth yma yn y cofnodion hefyd.
    3. Gwnewch yn siŵr bod llywodraethwyr wedi cyflawni’r hyfforddiant gorfodol angenrheidiol a’u hannog hefyd i dderbyn hyfforddiant pellach a fydd yn cynyddu eu gwybodaeth a’u hyder i ofyn cwestiynau deallus.
    4. Gwnewch yn siŵr bod papurau cefnogi yn cael eu hanfon gyda’r agenda o leiaf 5 diwrnod cyn cyfarfod, fel bod llywodraethwyr yn gallu ymgyfarwyddo gydag adroddiadau a theimlo’n fwy hyderus i ofyn cwestiynau perthnasol.
    5. Trafodwch gyda’r Cadeirydd yr angen i annog llywodraethwyr i ofyn cwestiynau ac i gymryd rhan mewn cyfarfodydd.
    6. Atgoffwch y llywodraethwyr o’r angen i ysgrifennu adroddiad yn dilyn unrhyw ymweliad llywodraethwr cyswllt ac awgrymwch bod banc o gwestiynau’n cael eu datblygu gan y llywodraethwyr i sicrhau eu bod yn gofyn y cwestiynau perthnasol a heriol wrth ymweld â’r ysgol. Rydym wedi cynhyrchu rhai templedi i lywodraethwyr cyswllt eu defnyddio.
    7. Anogwch y llywodraethwyr i gynnal archwiliad sgiliau i asesu unrhyw fylchau ar y corff llywodraethu.
    8. Anogwch y llywodraethwyr i adlewyrchu ar eu harfer eu hunain trwy gynnal ymarferion hunanwerthuso.

© Gwasanaethau Governors Cymru

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 support@governors.cymru
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708